Sut y byddaf yn talu amdano?

Gallwch gael cymorth i dalu'r gost o fynd i brifysgol mewn sawl ffordd.

Mae peth o'r cymorth hwnnw ar gael drwy fenthyciadau y mae'n rhaid eu had-dalu, ond dim ond ar ôl i chi ddechrau ennill mwy na swm penodol. Mae cymorth hefyd ar gael drwy grantiau nad oes rhaid eu talu'n ôl.

Daw peth o'r cyllid oddi wrth y llywodraeth a pheth oddi wrth brifysgolion a cholegau, elusennau neu ffynonellau eraill.

Os ydych yn gwneud cais o'r tu allan i'r DU, edrychwch ar ein tudalen 'ymgeiswyr rhyngwladol' i gael gwybodaeth am gyllid myfyrwyr.

Gweler ein gwybodaeth ddiweddaraf am gostau byw tra yn y brifysgol.

Back
to top